Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5, Tŷ Hywel a
fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd
Mercher, 24 Ionawr 2024
Amser:
09.30 -
12.19
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13669
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Russell George AS (Cadeirydd) Mabon ap Gwynfor AS Gareth Davies AS Sarah Murphy AS Jack Sargeant AS Joyce Watson AS |
Tystion: |
Dyfed Edwards, yr ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru Yr Athro Jim McManus, Iechyd Cyhoeddus Cymru Dr Zoe Wallace, Iechyd Cyhoeddus Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Claire Morris (Ail Glerc) Lowri Jones (Dirprwy Glerc) Angharad Lewis (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dyfed Edwards, yr ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rôl Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
4.2 Byddai’r Pwyllgor yn cytuno ar ei adroddiad drwy e-bost, cyn ei gyhoeddi ddydd Gwener 26 Ionawr.
5.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru.
5.2 Cytunodd yr Athro McManus i ysgrifennu at y Pwyllgor ynghylch y materion a ganlyn;
· pa glefydau prin a chyflyrau cronig y mae babanod newydd-anedig yn cael eu sgrinio ar eu cyfer
· canfyddiadau'r adolygiad o'r cynllun cenedlaethol atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff
· gwybodaeth am sut y gwnaeth y Ffindir wrthdroi ei chyfraddau clefyd y galon
· enghreifftiau pellach o feysydd a all gefnogi gwaith atal nad oes ganddynt gost ariannol neu sydd mewn gwirionedd yn dod ag arbediad ariannol.
6.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.2 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.